Sut ga i docyn i'r Eisteddfod eleni?
Mae tocynnau ar werth ar ein gwefan. Cliciwch yma am wybodaeth ac i brynu tocynnau.
Beth sy’n digwydd ar y Maes?
Dros 8 diwrnod mae'r Maes yn gartref i gannoedd o ddigwyddiadau celfyddydol, hamddenol, a masnachol o bob cwr o Gymru, a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y rhaglen ar gael ar-lein ym mis Mehefin
Beth sy'n digwydd gyda'r nos?
Mae gennym ni nosweithiau o adloniant yn y Pafiliwn o nos Sadwrn - nos Lun. Ein prif gyngerdd eleni yw sioe côr yr Eisteddfod, sef 'Sefyll ar y Sgwâr', sioe jukebox sydd wedi'i hysbrydoli gan ganeuon Ail Symudiad, y band dylanwadol o Aberteifi, gyda sgript gan Nico Dafydd a Mari Elen. Mae'r tocynnau i gyd wedi gwerthu allan. Mae 'Sefyll ar y Sgwâr' ymlaen nos Sadwrn a nos Lun am 19:30.
Nos Sul cynhelir y Gymanfa Ganu yn y Pafiliwn am 19:30. Bydd côr yr Eisteddfod yn perfformio, a bydd cyfle i gyd-ganu rhai o hoff emynau'r genedl. Darperir llyfrau canu ar y noson. Rhagor o wybodaeth a thocynnau yma.
Mae nosweithiau o gystadlu yn y Pafiliwn bob noson arall, ac mae mynediad am ddim gyda thocyn Maes dilys.
Arhoswch ar y Maes i fwynhau adloniant mewn llefydd amrywiol. Edychwch ar ein rhaglen am fanylion neu defnyddiwch yr ap.
Cofiwch hefyd am gigs Maes B ac mae rhagor o wybodaeth a thocynnau yma.
Ga i wirfoddoli ar y Maes?
Mae ein cyfleoedd gwirfoddoli'n fyw nawr - Gwirfoddoli yn 2026 | Eisteddfod
Oes gennych chi app eleni?
Oes. Bydd yr app ar gael ym mis Gorffennaf.
Ydw i'n gallu llogi cadair olwyn neu sgwter ar y Maes?
Rydym yn cydweithio gyda chwmni Byw Bywyd unwaith eto eleni, ac mae’u stondin wedi’i lleoli wrth ymyl y brif fynedfa.
Er bod sgwteri a chadeiriau olwyn ar gael i’w llogi ar y dydd, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu gyda’r cwmni ymlaen llaw am sgwrs, a gellir gwneud hyn drwy ffonio 01286 830 101.
Os ydych yn bwriadu llogi sgwter am y tro cyntaf eleni, dylech gysylltu gyda’r cwmni am gyngor a sgwrs. Os nad ydych yn brofiadol ar sgwter, dylech ddewis cyflymder araf wrth grwydro’r Maes.
Byddwch yn ystyrlon o ymwelwyr eraill bob amser wrth ddefnyddio sgwter o amgylch y Maes.
Mae stondin Byw Bywyd ar agor o 09:00 - 18:00 bob dydd.
Mae modd i ymwelwyr wefru eu sgwter yn y stondin, hyd yn oed os nad ydynt wedi llogi’r sgwter gan gwmni Byw Bywyd.
Oes swyddi ar gael ar y Maes?
Rydyn ni’n cyhoeddi unrhyw swyddi ar y Maes. Cysylltwch gyda’r stondin / cwmni sy’n cynnig y gwaith yn hytrach na ni, os gwelwch yn dda. Does dim swyddi ar gael ar hyn o bryd.
Oes cyfieithu ar gael ar y Maes?
Oes. Mae cwmni Cymen yn cynnig gwasanaeth yn ystod yr wythnos. Ewch i’r ganolfan gyfieithu y tu allan i’r Pafiliwn i gasglu eich offer yn rhad ac am ddim.
Oes ‘na dapiau dŵr ar y Maes?
Mae pwyntiau dŵr ar gael ar hyd a lled y Maes, ac wedi’u nodi’n glir ar fap y safle. Mae’r rhain wedi’u gosod yn isel er mwyn hwyluso ymwelwyr mewn cadeiriau olwyn a sgwteri.
Ein bwriad yw annog ymwelwyr i ddod â photeli dŵr y gellir eu hail-ddefnyddio i’r Maes, a’u llenwi’n rheolaidd wrth grwydro. Nid oes poteli dŵr plastig ar werth ar y Maes eleni.
Oes gennych chi ganolfan eiddo coll?
Oes. Ewch ag unrhyw eiddo coll i Swyddfa’r Eisteddfod y tu ôl i’r Pafiliwn. Bydd eiddo coll sydd heb ei gasglu’n dychwelyd i’n swyddfa yng Nghaerdydd a byddwn yn gwneud ein gorau i’w ddychwelyd i'r perchennog. Mae’n bosibl y bydd cost am bostio rhai eitemau. Os na fydd eiddo wedi’i gasglu / dychwelyd erbyn diwedd Medi, byddwn yn cysylltu gydag elusennau lleol.
Ydw i'n cael dod â fy nghi i'r Maes?
Ydych. Mae croeso i gŵn ufudd a chyfeillgar cyn belled â’u bod nhw ar dennyn tynn drwy’r amser. Dim ond cŵn cymorth sy’n cael mynd i’r Pafiliwn, ond mae croeso mawr i gŵn eraill o amgylch y Maes.
Oes gennych chi deithiau tywys eleni?
Oes. Maen nhw'n gadael y Hwb Gwybodaeth am 11:00 a 14:00 bob dydd ac yn arbennig o addas i ymwelwyr newydd. Holwch yn y ddesg ymholiadau
Oes gennych chi ystafell weddïo eleni?
Oes, mae gennym ni ardal arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno gweddïo neu myfyrio yn ystod eu hymweliad. Mae'r ystafell weddïo aml-ffydd wedi'i lleoli i ffwrdd oddi wrth fwrlwm mawr y Maes, yn agos at y Llecyn Llonydd a'r Hwb Hygyrchedd ac wedi'i nodi ar ein map
Ydw i dal yn gallu cyfrannu i'r Gronfa Leol?
Wrth gwrs! Cliciwch yma i gyfrannu. Rydyn ni'n ddiolchgar am bob cyfraniad.
Rydw i'n byw yn lleol ac eisiau addurno fy ardal i groesawu'r Eisteddfod - ga i gyngor?
Newyddion gwych! Mae ein hymwelwyr ni'n hoffi gweld y croeso lliwgar ym mhob ardal wrth gyrraedd. Mae ein hymgyrch harddu'n rhedeg nawr! Rhagor yma - Prosiect Harddu 2026 | Eisteddfod
